Mae gennym ddiddordeb mewn sawl agwedd ar iechyd a lles meddwl, ac mae angen pobl arnom bob amser sy'n barod i gymryd rhan mewn arolygon ac astudiaethau ar y materion hyn. Hoffem eich gwahodd felly i ddod yn rhan o'n cronfa ddata o gyfranogwyr posibl.
Byddwn yn cadw'r wybodaeth rydych yn ei rhoi i ni mewn cronfa ddata gyfrinachol ddiogel (sy'n golygu mai dim ond ein tîm ymchwil fydd yn gallu cael gafael arni) ac ni fydd y wybodaeth a roddwch i ni yn cael ei rhannu ag unrhyw un arall. Gallwch hefyd newid eich meddwl ar unrhyw adeg a thynnu eich manylion o'r gronfa ddata heb ofyn unrhyw gwestiynau.
Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth hon i gysylltu â chi i'ch gwahodd i gymryd rhan mewn astudiaethau yn y dyfodol. Bydd pob astudiaeth yn cael ei hesbonio i chi ac nid oes rhaid i chi gymryd rhan os nad ydych chi eisiau gwneud hynny. Er mwyn i ni allu gwahodd y bobl sydd fwyaf perthnasol i'n hastudiaethau, a fyddech cystal â llenwi'r ffurflen isod: